Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

 

3 Rhagfyr 2013

 

Yn bresennol

 

Ann Jones (Cadeirydd)

Donna Cushing (Ysgrifennydd sy’n gyfrifol am y Cofnodion)

 

 

Cynrychiolwyr / rhanddeiliaid

 

Richard Williams

Olivia Retter

Jacqui Bond

Jonathan Arthur

Michelle Fowler-Powe

 

 

Aelodau’r Cynulliad

 

Mark Isherwood

 

Cymorth cyfathrebu

 

Rachel Smith (Dehonglydd)

Cathryn McShane (Dehonglydd)

Grace Garnett (Gwefuslefarydd)

Ann Jones (yn gwneud nodiadau ar ran Michelle Fowler-Powe)

 

 

1.     Croeso ac ymddiheuriadau

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac ymddiheurodd am yr oedi cyn dechrau’r cyfarfod. Hefyd croesawodd Michelle Fowler a oedd yn bresennol ar ran Paul Redfern.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Barbara Rees, Ross Evans, Nick Morris, Nigel Williams, Susan Williams, Gill Hadfield, Paul Redfern, Norman Moore, Meryl Roberts, Jayne Dulson a Rachael Earp.

 

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2013.

 

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r aelodau bod y cofnodion ar gael ar wefan Action on Hearing Loss Cymru ac ar wefan Llywodraeth Cymru bellach.

 

 

 

 

-1-

2.    Camau a oedd i’w cymryd ers y cyfarfod diwethaf yng Nghaerdydd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r aelodau bod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn parhau i fynd ar ei hynt drwy’r Cynulliad.

 

Dywedodd Richard Williams wrth yr aelodau nad oedd Action on Hearing Loss yn fodlon â’r iaith a ddefnyddir yn y Bil, gan gynnwys yr ymadrodd – "â nam ar eu clyw". Teimlwyd y gallai unigolion fod â safbwyntiau ar y mater hwn a’r iaith a ddefnyddir. Teimlai AOHL bod y termau ‘byddar’ a ‘thrwm eu clyw’ yn fwy addas i’w defnyddio yn y ddogfen. 

 

Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr byr at Gwenda Thomas i dynnu sylw at y ffaith nad yw’r iaith yn briodol.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r rhai a oedd yn bresennol ei bod wedi cysylltu ag unigolyn o’r Ganolfan Byd Gwaith a oedd yn gweithio gyda Mynediad i Waith. Byddent yn edrych yn fanwl ar y rhaglen waith ac yn adrodd ar yr hyn a ganfuwyd pan fyddai gwybodaeth ar gael.

 

Roedd Richard Williams am dynnu sylw at fater a oedd wedi codi’n ddiweddar o ran Mynediad i Waith. Clywodd bod Mynediad i Waith yn bwriadu gofyn i bobl sy’n cael gwasanaeth gweithwyr cymorth am fwy na 30 awr i gyflogi’r gweithiwr cymorth yn uniongyrchol eu hunain.  Bu’r aelodau’n trafod y mater hwn ac roedd Olivia Retter wedi cael gwybodaeth yn ddiweddar gan y corff ambarel dros sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl fyddar yn y DU (UKCOD) mewn cysylltiad â’r mater hwn, a byddai hi’n anfon copi o’r wybodaeth at yr aelodau. Hefyd, byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Carwyn Jones, er mwyn iddo ef godi’r mater gyda’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion.

 

 

3      Datblygu Awdioleg ledled Cymru

 

        Cyflwynwyd yr eitem hon gan Jonathan Arthur. Rhoddodd Jonathan Arthur gyflwyniad manwl ar sut y mae adrannau Awdioleg yn y GIG yn dangos gwelliannau wrth ddarparu gwasanaethau, a rhoddwyd mandad iddynt ar gyfer mabwysiadu Safonau Ansawdd.

 

        Yn 2010 roedd safon gwasanaethau Oedolion yn sefydlog ar raddfa o 68%, fodd bynnag, cynyddodd hwn i gyrraedd graddfa o 89% yn 2013.  Rhoddwyd prosiect arall ar waith yn 2011 i wella gwasanaethau clyw plant. Dywedodd Jonathan Arthur bod cytundeb wedi bod yn hyn o beth er mwyn gwella gwasanaethau’n gyffredinol mewn Adrannau Awdioleg, ac er mwyn annog rhagor o gydweithio rhyngddynt. Bydd pob Pennaeth Gwasanaeth Awdioleg yn cyfarfod bob chwarter, ac roedd Richard Williams o AOHL yn bresennol yn un o’r cyfarfodydd hyn.  Roedd pawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw yn awyddus iawn i wella gwasanaethau, gan gynnwys y gwasanaethau synhwyrau deuol a gwasanaethau offer cymorth a tinnitus. Mae ymgysylltu’n rheolaidd â chleifion yn allweddol yn hyn o beth, ac mae cynlluniau gwirfoddolwyr wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Mae adrannau hefyd yn gorfod edrych ar arbedion o ran eu costau, a darparu rhagor o wasanaethau gyda llai o arian. Mae nifer o fentrau ar y gweill ar hyn o bryd.

 

        I gloi, dywedodd Jonathan bod y gwasanaethau yn wynebu heriau, a bod angen ceisio gwella a hyrwyddo gwasanaethau i gleifion.

 

 

-2-

        Trafodwyd y mater yn fanwl gan y rhai a oedd yn bresennol, a soniwyd am:

 

·         Gyd-weithgorau ac ail-asesiadau o gleifion sy’n aros am wasanaethau.

·         Arolwg bodlonrwydd cleifion mewn cysylltiad ag ansawdd y gwasanaeth.

·         Cynnydd yn y boblogaeth sy’n gofyn am wasanaethau Awdioleg

·         Adolygiadau o gleifion bob tair blynedd

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cysylltu â’r Byrddau Iechyd i holi pa rai ohonynt sy’n ymlynu wrth y drefn o gynnal adolygiadau o gleifion bob tair blynedd. Yn ychwanegol, y dylid gwahodd Mark Drakeford, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu ei swyddogion, i fod yn bresennol mewn cyfarfod er mwyn cynorthwyo o ran materion yn y gwasanaethau Awdioleg. Awgrymodd Richard Williams y dylid trefnu agenda pwrpasol os byddwn yn gwahodd Mark Drakeford.

 

Awgrymodd Richard Williams hefyd y dylid gofyn i Dr Ruth Hussey, y Prif Swyddog Meddygol, i fod yn bresennol mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

4.    Asesiad Iechyd i bobl dros 50 oed

 

        Rhoddodd Richard Williams wybod y bydd asesiad iechyd y Llywodraeth i bobl dros 50 oed yn cael ei ymestyn o fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd, roedd cwestiynau yn yr asesiad i unigolion eu hateb ynghylch problemau o ran nam ar y clyw. Mynegodd yr aelodau eu pryder na fydd llawer o unigolion yn cydnabod eu problemau eu hunain ynghylch pryderon dros nam ar eu clyw, ac mae’n bosibl y byddai wedi bod yn fanteisiol rhoi cwestiynau yn yr asesiad iechyd sy’n gofyn “a yw eich teulu neu’ch partner yn sylwi ar eich diffyg clyw neu’n gwneud sylwadau am hyn?”, neu eiriau tebyg. Mae’r asesiad iechyd i’w weld yn https://addtoyourlife.wales.nhs.uk/intro.cfm

 

 

5.    Y wybodaeth ddiweddaraf am ‘Gau’r Bwlch’

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Dulson, a fethodd â bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

 

6.    Y wybodaeth ddiweddaraf gan Aelodau’r Cynulliad

 

       Dosbarthiadau gwefuslefaru  – Rhoddodd Mark Isherwood wybod bod yr arian gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) wedi dod i ben ym mis Gorffennaf ar gyfer dosbarthiadau yng Ngogledd Cymru, fodd bynnag mae Cymdeithas Pobl Fyddar Gogledd Cymru yn edrych a oes arian ar gael o rywle arall.

 

       Trafodwyd y mater hwn, ac roedd y rhai a oedd yn bresennol yn teimlo y dylai dosbarthiadau fod yn ddi-dâl ar gyfer unigolion, ac y dylid eu hariannu ar y cyd gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol ac adrannau iechyd. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog Cydraddoldeb i nodi pryderon y grŵp ynghylch ariannu’r dosbarthiadau.

 

8.     Unrhyw fater arall

 

        Tynnodd Michelle Fowler-Powe sylw at faterion yn ymwneud â’r rhif brys 999 a’r rhif 101 nad yw’n rif brys, ar gyfer pob unigolyn sydd â nam ar eu clyw. Mae adroddiad ar y mater hwn yn cael ei lunio ar hyn o bryd.

 

-3-

        Rhoddodd Richard Williams wybod i’r rhai a oedd yn bresennol bod y Safonau Cymru Gyfan ar Gyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch i Bobl sydd wedi colli defnydd eu synhwyrau yn cael eu lansio ddydd Iau.  Gellir darllen y Safonau yn: http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/guidance/standards/?lang=en

 

 

        Dywedodd Olivia Retter wrth yr aelodau bod y cyfarfod ar gyfer Cymdeithas Iechyd Meddwl Prydain a drefnwyd ar gyfer mis Hydref wedi’i ganslo oherwydd diffyg diddordeb. Roedd hwn yn gyfle a gollwyd.

 

9.     Cloi’r cyfarfod a dyddiad y cyfarfod nesaf

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar yn y flwyddyn newydd - y dyddiad i’w gadarnhau.

 

 

Dymunodd y Cadeirydd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

-4-